Uno Cwmni

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd DRB Group yn uno â Prime Engineering Services Ltd o Chwefror 1af 2007 ymlaen.

 

Ehangu'r gwaith

Y mae DRB Group a Prime Engineering Services Ltd wedi hen ennill eu plwyf,  ac yn sgîl yr uno bydd y naill yn elwa o arbenigedd y llall. Bydd adran Gwasanaethau Gwaith Peipiau a Chynhyrchu DRB yn ehangu, a bydd  Prime Engineering Services yn gallu cynnig ystod ehangach o wasanaethau. Fel rhan o’r uno, bydd Paul Dooley a’i deulu yn ymfudo i Awstralia er mwyn mwynhau bywyd hamdden wedi blynyddoedd waith di-flino.

    

Bydd y busnes newydd yn arddel enw DRB Group ac yn cael ei redeg o safle’r cwmni ar Lannau Dyfrdwy.  Bydd holl weithlu Prime Engineering Services yn aros, felly ni fydd dryswch i’n cwsmeriaid.