Valve Department

Dechreuwyd adeiladu  Adran Falfiau newydd DRB ar eu safle ar Lannau Dyfrdwy ar y 15fed o Ragfyr 2006. Bydd y gwaith yn parhau am 6 mis. 

Ehangu'r gwaith

Bydd y datblygiad hwn yn estyniad i'r Siop Beiriannau bresennol; bydd y 1000 llathen sgwâr ychwanegol yn gwella cynhyrchiant yr Adran Falfiau ac Hydrolig. Bydd yr estyniad yn adnodd cydol y flwyddyn i gwsmeriaid ein gwasanaeth hydrolig ac adnewyddu falfiau. Bydd yr ystafell brawf ar ei newydd wedd yn galluogi DRB i gynorthwy'r diwydiannau ynni, cemegol a phetrocemegol pan fydd y diwydiannau hyn angen diffodd eu cyflenwad trydan.       

Meddai David Bennett, Rheolwr Gyfarwyddwr DRB Group, “Bydd estyniad newydd yr Adran Falfiau yn ein galluogi i gynnig gwasanaeth cyflawn fydd yn addasu'n ôl gofynion amrywiol ein hystod eang o gwsmeriaid.”