Valve Maintance Engineer
Oriau: 37.5 awyr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener 08.00 – 16.30
Cyflog: I'w drafod (yn uwch na'r isafswm cyflog)
Manteision: Cynllun pensiwn y cwmni, prisiau rhatach i'r staff yn y ffreutur, 23 diwrnod o wyliau y flwyddyn, parcio am ddim.
Disgrifiad: Wedi'i leoli'n ein adran Falfiau Proses, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm sy'n ehangu, a bydd disgwyl i'r ymgeisydd ddeall falfiau rheoli a falfiau llaw. Bydd angen gallu gweithio'n hyblyg er mwyn ateb gofynion cwsmeriaid. Rydym yn gweithio â'r diwydiant Ynni, Petrocemegol, Fferyllol a Phapur, a bydd angen gweithio ar safle yn ôl y galw. Byddai gwybodaeth sylfaenol o offerwaith yn fanteisiol, ond ceir hyfforddiant llawn.
Sut i geisio: Gallwch wneud cais drwy lawrlwytho Ffurflen Gais a'i gyrru at Paul Halliday, ar e-bost (jobs@drbgroup.co.uk) neu drwy'r post (manylion ar y dudalen cysylltu).
Gwerthwr Hydrolig Mewnol
Oriau: 37.5 awyr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener 08.30 - 15.30
Cyflog: I'w drafod (yn uwch na'r isafswm cyflog)
Manteision: Cynllun pensiwn y cwmni, prisiau rhatach i'r staff yn y ffreutur, 23 diwrnod o wyliau y flwyddyn, parcio am ddim.
Disgrifiad: Yn sgìl ehangu cyfleusterau ein gweithdy, mae galw am fwy o weithwyr. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm, mewn swyddfa werthu brysur; yn dosbarthu amrywiaeth o offer hydrolig diwydiannol, a byddai gwybodaeth ynglŷn â niwmateg yn fanteisiol. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd yn llawn cymhelliad, gyda sgiliau cyfathrebu da a gwybodaeth o'r diwydiant.
Sut i geisio: Gallwch wneud cais drwy lawrlwytho Ffurflen Gais a'i gyrru at Keith Vivian, ar e-bost (jobs@drbgroup.co.uk) neu drwy'r post (manylion ar y dudalen cysylltu).

Yn ol