Ynglyn â ni Continued...
Mae'r un criw o reolwyr wedi llywio DRB ers y cychwyn, a thrwy gydol ffyniant y cwmni mae'r sylfaenydd, Dave Bennett, wedi mynnu cadw un nodwedd gyson. Y nodwedd hon - eu gallu i ddarparu gwasanaeth 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos – yw prif gryfder y cwmni.
Sefydlwyd DRB Fluid Power yn 1994. Mae'r cwmni hwn yn gweithio ag offer gan ATOS, Alfagamma, Parker Maxam, Enidine, Norgren, Powerteam a Bosch ac yn darparu Offer Rheoli, Tiwbiau & Dyfeisiadau Gosod, Falfiau Rheoli, Pwmpiau, Moduron ayyb.
Mae Fluid Power yn magu enw fel un o brif gwmnïau hydrolig a niwmateg gogledd Cymru a Swydd Gaer. Mae'n rhannu'r un gwerthoedd â'i chwaer gwmnïau, gan sicrhau mai gofynion y cwsmeriaid sy'n dod gyntaf.
Mae'r cwmni wedi ffynnu'n dra sylweddol dros y saith mlynedd ddiwethaf gan sefydlu:-
DRB Fastners. Gyda dewis o 4,000 math o ddur gloyw, pres, dur hydwyth a meddal, gallwn ateb anghenion ein cwsmeriaid ar unwaith. Er mwyn ateb gofynion ein cwsmeriaid rydym yn prynu amrediad eang o nwyddau o wledydd Prydain ac Ewrop.
DRB Fabrication. Mae gan DRB Fabrication ddau weithdy, gyda un ar gyfer gwaith dur gloyw'n unig. Ceir amrediad llawn o offer yn y gweithdai a gwneir gwaith llenfetel, ffitio peipiau yn ogystal â weldio cyffredinol a chodedig.
DRB Process Valves. Sefydlwyd DRB Process Valves ym mis Ionawr 2006 er mwyn ehangu ein hadran hydroleg. Mae'n arbenigo mewn darparu, archwilio, profi ac ardystio pob math o falfiau proses. |