DRB

Y mae DRB yn falch o'i enw da fel un o gwmnïau peirianneg preifat mwyaf y gogledd orllewin.

Mae gan DRB Group – cwmni o Sir y Fflint sydd wedi tyfu a magu enw da – ddeng mlynedd ar hugain o brofiad, a chwsmeriaid ledled Prydain. Caiff DRB Group - cwmni preifat sy'n mynd o nerth i nerth – eu hystyried yn un o gwmnïau peirianneg gorau a mwyaf yr ardal.

Mae'r cwmni yn delio ag ystod eang o ddiwydiannau, ac er mai cwmni peirianneg yw DRB dyw ein gwaith ddim wedi'i gyfyngu i'r maes hwnnw. Mae'n cysylltiadau gwaith yn amrywio o ddiwydiant bwyd a diod, pecynnu, cemegol, olew a nwy i waith chwarel, modurol, blue chip a'r diwydiant aerofod. Un o'n cyweithiau presennol yw datblygu bogïau fydd yn gwneud rheilffyrdd Prydain yn fwy diogel.

Mae DRB yn delio â phopeth o Drosglwyddwyr Grym a Pheirianwaith Manwl i Falfiau Proses, Niwmateg ac Hydroleg. Yr hyblygrwydd hwn yw ein cryfder. Mae'n gwasanaeth ar gael i rywun, boed yn gwsmer yn chwilio am hyn a llall neu'n gwmni â phrosiect gwerth cannoedd ar filoedd o bunnau. Caiff unrhyw un brynu unrhyw beth o nytiau i bêl ferynnau yn ein siop.

Cryfder arall DRB yw'r ffaith ein bod ar gael bedair awr ar hugain. Gall rhywun ein galw allan 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'n gallu i gynnig hyn yn rhoi tawelwch meddwl i'n cwsmeriaid.

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau sy'n cynnwys turnio, melino a llifanu sy'n cydfynd â'n hadrannau falfiau, hydrolig, a'n gwasanaeth gosod a gwneud.

Yn ogystal â'n gwasanaeth gwaith-gynhyrchu, rydym yn gwerthu peirianwaith trosglwyddo grym a falfiau proses a diogelwch gan nifer o gwmnïau adnabyddus.