|
DRB yn newid eu meddalwedd busnes
Y mae DRB wedi arwyddo cytundeb meddalwedd â Techology Services Group (TSG). Y mae TSG, sy'n dal tystysgrif Partner Aur Microsoft, yn gweithio gyda dros 11,000 o fusnesau bach a chanolig eu maint led led gwledydd Prydain.
Bydd y cytundeb yn golygu newid ERP, system bresennol DRB, am Microsoft Dynamics NAV. Mae'r buddsoddiad hwn yn brawf o ymroddiad DRB i wella eu gwasanaeth. |
 |
|
DRB yn newid eu meddalwedd busnes
Y mae Microsoft Dynamics NAV yn cynnig gwasanaeth rheolaeth busnes sydd wedi'i ddylunio ar gyfer ateb gofynion busnesau bach a chanolig eu maint. Mae'r rhaglen wedi ei chynllunio'n arbennig ar gyfer cyllido, rheoli cyflenwad nwyddau, rheoli cyswllt â'r cwsmer, ac e-fasnach.
Dewiswyd Microsoft Dynamics NAV oherwydd gallu'r feddalwedd i gyd-redeg â rhaglenni cynllunio eraill, gan alluogi DRB i wneud newidiadau ar-y-pryd heb amharu ar weddill system gyfrifiadurol y cwmni. Golyga hyn y bydd y cwmni'n gallu ymateb yn effeithlon i gyfleoedd busnes a chwsmeriaid newydd.
“Rydym wrth ein boddau â'r cytundeb hwn â TSG. Fe fydd yn gwneud y busnes yn fwy effeithlon, yn ogystal â gwneud DRB yn fwy atyniadol i bartneriaid newydd gan sicrhau ein bod yn cadw'n gystadleuol, ”medddai Dave Bennett, Rheolwr Gyfarwyddwr DRB. |