[Trosglwyddo Grym]
[Berynnau]
[Peiriannu]
[Saernïo]
[Niwmateg / Hydrolig]
[Falfiau Proses]
[Dylunio]

Saernïo

Mae gennym ddau weithdy saernïo, un dur gloyw ac un dur fferrus, a'r cyfleusterau i wneud gwaith peipiau, gwaith llenfetel yn ogystal â gwaith saernio cyffredinol Rydym yn arbenigo mewn gwaith dur gloyw, ond yn cynhyrchu cronadwyr gwasgedd a dysglau gwasgedd hefyd. Rydym yn cynhyrchu ar gyfer y diwydiant Petrocemegol, Bwyd a Chynnyrch llaeth a'r diwydiant Fferyllol.

Y mae gan ein gweithwyr sy'n gweithio ar safleoedd dystysgrifau SCATS a glendid bwyd.

Saernïo

Torri Plasma CNC

gyda lle ar gyfer dalennau 3000mm x 1500mm, a'r gallu i dorri dur meddal, dur gloyw neu alwminiwm; dur meddal – hyd at 15mm o drwch, dur gloyw a alwminiwm – hyd at 12mm o drwch.

Plygu

  • Brêc pwyso 200 tunell 4000mm o hyd
  • Brêc pwyso 200 tunell 3000mm o hyd
  • 300 peiriant plygu Keytona

 

Platiau a Thalenni Rhôlferynnu

  • 2500mm rhôlferyn pyramid hir 12mm 2000mm
  • 2000mm rhôlferyn pyramid hir 4mm 2000mm
  • 1500mm rhôlferyn pyramid hir 2mm 1500mm
  • Rhôlferyn ongl ar gyfer bariau ongl fflat a rhai tiwbiau

Guillotine

  • 3000mm o hyd, 13mm o drwch dur meddal neu 10mm o drwch dur gloyw
  • 3000mm o hyd, 13mm o drwch dur meddal neu 10mm o drwch dur gloyw

Weldio

  • Weldio TIG - dur meddal, dur gloyw, alwminiwm
  • Weldio MIG – dur meddal, dur gloyw, alwminiwm
  • Weldio MMA – dur meddal, dur gloyw, alwminiwm

Mae gennym ddulliau o weldio dur meddal a dur gloyw fyddai'n addas ar gyfer weldio plât neu diwb i Safon Prydeinig ac ASME

Plygu Tiwbiau

Plygwyr peipiau hydrolig sy'n gallu plygu tiwbiau o 10mm i 4” NB SHD

Gwaith

Gallwn ddarparu gweithwyr ar gyfer ffitio, saernïo, weldio, ffitio peipiau, gwaith dur, gwaith llenfetel. Bydd y gweithwyr hyn yn gallu manteisio ar adnoddau ein gweithdai. 

[Llawrlwytho] Taflen gais Peiriannu & Gwaith-gynhyrchu