[Trosglwyddo Grym]
[Berynnau]
[Peiriannu]
[Saernïo]
[Niwmateg / Hydrolig]
[Falfiau Proses]
[Dylunio]

Peiriannu

Y mae DRB Machining Ltd yn cynnig ystod eang o wasanaethau sy'n cynnwys Cynllunio, Gwneud a Gosod offer sodro a gwaith-gynhyrchu, CNC a Pheirianneg Confensiynol, Atgyweirio gerbocsys, Atgyweirio a gosod systemau Hydrolig a Niwmatig, Atgyweirio Falfiau Proses, Gwasanaeth gosod ar safle.

Y mae gan ein gweithwyr sy'n teithio i safleoedd dystysgrifau SCATS a glendid bwyd.

Peiriannu

Yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf y mae DRB wedi buddsoddi'n sylweddol mewn peiriannau CNC.  Yn ogystal â hyn rydym wedi adnewyddu'r offer yr oeddem yn eu defnyddio'n barod.

Gwasnaethau Peiriannu yr ydym yn eu cynnig:

  • Turnio hyd at 4000mm o hyd x 600mm diamedr
  • Melino CNC hyd at 6000mm x 800mm maint
  • Tyllu hyd at o 1820mm diamedr
  • Llifanu hyd at 1980mm o hyd x 6000mm diamedr

 

Ynghyd â'r uchod mae gennym ddewis eang o beiriannau confensiynol llai o faint, canolfannau peiriannu CNC, slotio, a llifanu tu mewn ac ar y wyneb.

Yn sgîl ein cysylltiadau'n y diwydiant, gallwn gynnig gwasanaeth torri gêr, erydu gwifrau a chydbwyso.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglyn â'n dewis o beiriannau

[Llawrlwytho] Taflen gais Peiriannu & Gwaith-gynhyrchu