[Trosglwyddo Grym]
[Berynnau]
[Peiriannu]
[Saernïo]
[Niwmateg / Hydrolig]
[Falfiau Proses]
[Dylunio]

Adran Falfiau

Ehangwyd ein gwasanaeth falfiau'n ddiweddar.  Erbyn hyn, gallwn wneud unrhyw waith trwsio neu gynnal a chadw, yn ogystal â sawl agwedd arall o gynhyrchu a gwerthu.

Mae'n staff yn cynnwys criw o dechnegwyr profiadol, cymhwysiedig.  Mae ganddyn nhw’r gallu i ymdrin â  phob agwedd o gynnal a chadw falfiau. 

Mae gan bob aelod o’n staff basport cemegol (SCATS)

Gwasanaethau

Trwsio

Mae pob falf sy’n cael ei drin yma'n cael ei ddatgymalu er mwyn ei lanhau yn drwyadl, gan waredu pob tamaid o rwd neu gen. Mae hyn yn ein galluogi i weld os oes gwendidau yn y falf, e.e. craciau, cyrydu, neu erydu.

Falfiau Rheoli

Mae pob falf rheoli'n cael ei atgyweirio'n llawn, ac yna'n cael ei brofi gan aelod o staff.

Falfiau diogelwch

  • Pre-Pop, Profi, neu Adnewyddu  pob math o falfiau diogelwch
  • Falfiau wedi eu graddnodi'n yn ôl safonau profion mesuryddion ac wedi'u trwyddedu yn unol â gofynion profion perthnasol. 

Falfiau Proses

Dyma'r mathau eraill o flafliau sy'n cael eu trwsio gan ein technegwyr:

  • Falf llithro baralel
  • Pêl-falfiau
  • Crynion
  • Plwg
  • Coron
  • Lleihau
  • Rheoleiddio
  • Knife Gate
  • Wedge Gate

Mesuryddion Gwasgedd

Test, Calibration and Certification of all types of Pressure Gauges.

Ar Safle

Mae llawer o ddiwydiannau cyfoes yn dewis peidio cadw technegwyr a pheirianwyr ar staff y cwmni.  Ein gwaith ni yw helpu'r cwmnïau hyn i lenwi’r twll, gan sicrhau fod yr arbenigedd angenrheidiol wrth law.

Mae DRB yn cynnig gwasanaeth criw o dechnegwyr o’r radd flaenaf sydd ar gael  i'ch cynorthwyo yn eich gweithlu.

Adran werthu

Mae DRB yn gwerthu dewis eang a rhyngwladol o falfiau, ac offer trin falfiau.

Gallwn gyflenwi pob math o falf, o unrhyw faint, wedi ei wneud o sawl deunydd.

Beth bynnag fo’ch anghenion, rydym yn hyderus y gallwn eich helpu. 

Gallwn ddod o hyd i falfiau newydd i gymeryd lle yr hen rai, neu awgrymu falfiau eraill addas i wneud yr un gwaith.  Er mwyn lleihau eich costau, gallwn gynnig dewis o falfiau sydd wedi'u hailgylchu.

Gall DRB ddod o hyd i rannau peiriannau pob math o wneuthurwyr.

Ymweld a’ch safle

Cyn dechrau ar y gwaith trwsio, gallwn ymweld â’ch safle er mwyn trafod eich anghenion.

Gwasanaethau Atodol

Profi a Thrwyddedu

Mae DRB yn cynnig gwasanaeth profi ar gyfer pob math o offer fel Mesuryddion Gwasgedd, Derbynyddion Aer, Llestri Gwasgedd, Siacedi Ager a Llestri Cynhyrchu

Cynhyrchu

Gellir cynhyrchu darnau arbenigol o falfiau fel PLWGIAU, SEDDI ayyb yn ein gweithdai, gan wneud gwaith peiriannu manwl yn unol â gofynion y cwsmeriaid

Glanhau a pheintio darnau

Gwarant

Mae'n holl waith wedi'i warantu am 12 mis, ac mae DRB yn cadw cofnod manwl o’r holl a wneir ar bob un falf.

Cwsmeriaid

Mae rhai o gwmnïau mwyaf adnabyddus gwledydd Prydain, mewn amryw o ddiwydiannau, yn gwsmeriaid i DRB:

  • Y DIWYDIANT TEIARS
  • Y DIWYDIANT CEIR
  • Y DIWYDIANT CEMEGOL
  • Y DIWYDIANT PAPUR
  • Y DIWYDIANT PETROCEMEG
  • Y DIWYDIANT FFERYLLOL
  • Y DIWYDIANT CYNHYRCHU TRYDAN
  • Y DIWYDIANT BWYD
  • Y DIWYDIANT BRAGU