|
|
Gwasanaethau
Y mae DRB wedi magu enw da trwy gynnig gwasanaeth arbenigol ar gyfer y diwydiannau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ein peirianwyr ar gael trwy gydol yr amser bob diwrnod o'r flwyddyn, ac er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb yn syth i alwadu mae gennym wasanaeth ateb 24 awr.
|
Gwasanaethau
Er mwyn gwella'r cwmni'n gyson, ac ymateb i newidiadau yng ngofynion ein cwsmeriaid, mae gennym bolisi o hunanfeirniadaeth. Golyga hyn fod ein hadnoddau'n cael ei huwchraddio a'u ehangu fel mater o drefn.
Y mae ein holl wasanaethau peiriannu yn defnyddio system ISO 9001-2000. Er mwyn sicrhau fod ein nwyddau o'r ansawdd uchaf mae gennym ddau arolygwr llawn amser yn gweithio yma. Mae ganddyn nhw brofiad eang yn y maes, ynghyd a'r offer gorau posib. |