[Arlwyo]
[Papur a Phacedu]
[Petrocemeg, Olew a Nwy]
[Chwareli]
[Ceir, Trenau ac Awyrenau]
[Iwtiliti]
[Eraill]

Papur a phecynnu

Mae'r diwydiant papur a phecynnu yn dibynnu ar gynhyrchu nifer helaeth o nwyddau, a hynny'n gyflym. Mae'n ddiwydiant llawn her sydd angen peirianwaith awtomatig cymhleth. 

Mae DRB yn ymwneud â phob agwedd o'r diwydiant pecynnu, gan gynnwys pecynnu plastig, papur a metel.  Gyda 30 mlynedd a mwy o brofiad, mae DRB yn deall cymhlethdod cynhyrchu'r nwyddau hyn, yn ogystal ag anghenion y peiriannau sy'n gwneud y gwaith. 

Mae gallu DRB i gynnig dewis eang o wasanaethau, eu dealltwriarth o anghenion pecynnu, a'u gwasanaeth 24 awr y diwrnod, wedi sicrhau mai DRB yw  dewis cyntaf cwmnïau blaenllaw y diwydiant. 

Nwyddau a Gwasanaethau

  • Cynllunio ac adeiladu offer awtomatig
  • Cynllunio ac adeiladu systemau gwarchod pobl
  • Cymorth gyda trefnu gwaith cynnal a chadw er mwyn rhagweld problemau.
  • Gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
  • Gwasanaeth arbenigol ar gyfer dur gloyw
  • Gwasanaeth archwilio, a sicrhau ansawdd
  • Staff sy'n meddu ar Safety Passport y Grwp Diogelwch Prydeinig, ac yn gallu cynhyrchu a ffitio gardiau
  • Saernïo nwyddau haearn, dur gloyw ac alwminiwm
  • Darparu pêl-ferynnau a rhôlferynnau
  • Dylunio a chyflenwi beltiau, cadwyni a gyriannau
  • Cysylltiadau â phrif gyflenwyr nwyddau niwmateg yn Ewrop
  • Darparu cyfyngiant gorlif ac offer rheoli
  • Systemau rheoli stoc