|
|
Petrocemeg, Olew a Nwy
Ystyrir petrogemeg, olew a nwy yn faesydd mwyaf heriol y diwydiant peirianeg. Mae'n nhw wedi'u rheoleiddio'n llym, ac mae cyfyngiadau caeth yn dylanwadu ar y gwaith. Lleolir y gwaith yn aml mewn rhannau anodd o'r byd, a gall yr hyn a gynhyrchir fod yn hynod o ansefydlog. Gall camgymeriadau fod yn drychinebus i'r cwmnïau a'r amgylchedd.
Yn sgîl 30 mlynedd a mwy o brofiad â phetrocemeg, olew a nwy, mae DRB wedi magu tîm o dechnegwyr medrus sydd wedi'u hyfforddi i wneud gwaith o safon cydnabyddedig. Gallwn gynnig gwasaneth ffitio / cynnal a chadw ar safle yn ogystal ag arbenigedd mewn rhoi gwasanaeth, cynnal a chadw a gwirio offer cymhleth ym maes niwmateg a hydroleg.
Gan ein bod mewn cysylltiad â dosbarthwyr blaenllaw y diwydiant, rydym yn gallu cael gafael ar nifer o nwyddau addas, gan sicrhau amnewid nwyddau am rai yr un fath. Yn ogystal â hyn, mae gennym dîm o ddylunwyr sydd ar gael i drafod a chyflawni gofynion ein cwsmeriaid, ac mae'n hadnoddau cynhyrchu – sydd ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos – yn gefn i'r gwasanaeth hwn. |
Nwyddau a Gwasanaethau
- Adnoddau dylunio, cynhyrchu, peiriannu a saernïo
- Archwilio ansawdd
- Staff sy'n meddu ar National Safety Group Passport.
- Dadansoddi ar safle
- Atgyweirio a phrofi pob math o falfiau / cychwynwyr / mesuryddion
- Uwchraddio systemau gyriant
- Dewis llawn o gysylltiadau caletsyth ac hyblyg
- Berynnau Cooper Split
- Berynnau addaswyr Dodge Grip Tite
- Deunyddiau amsugnol
- Beltiau – Vee a Chludo
- Rhôlferyn sfferaidd
- Cadwyn – Rhôlferyn a Chludo
- Iriadau
- Gludiau
- Rhwymwyr
- Pibell PVC
- Darnau hydrolig a pheipiau
- Pwmpiau
- Cyflenwi darnau sbâr Atex Approved
|
|