[Arlwyo]
[Papur a Phacedu]
[Petrocemeg, Olew a Nwy]
[Chwareli]
[Ceir, Trenau ac Awyrenau]
[Iwtiliti]
[Eraill]

Chwareli

Mae chwareli a mwyngloddfeydd ymhlith y lleoliadau gwaith anoddaf,  maent wedi'u rheoleiddio’n llym, a cheir cyfyngiadau amgylcheddol ar lawer iawn o’r gwaith. Gall gosod offer mewn chwareli a mwyngloddfeydd olygu teithio i rannau anghysbell o’r byd, a gall yr offer fod yn anodd ei drin.  Gall camgymeriad olygu costau anferth, ac mae dod o hyd i’r offer arbennigol cywir yn anodd.

Mae DRB wedi bod yn gweithio yn y maes ers 30 mlynedd a mwy.  Mae gennym dîm arbenigol o ddylunwyr, yn ogystal â chyfleusterau gwaith-gynhyrchu ar gyfer anghenion peirianyddol chwareli a mwyngloddfeydd.  Mae’r gwasanaeth a gynnigir gan DRB ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.   

Nwyddau a Gwasanaethau

  • Adnoddau dylunio, cynhyrchu, peiriannu a saernïo
  • Archwilio ansawdd
  • Staff sy'n meddu ar  National Safety Group Passport
  • Profiad  mewn archwilio ac atgyweirio amrywiaeth o gêrfocsys
  • Uwchraddio systemau gyriant
  • Dewis llawn o gysylltiadau caletsyth ac hyblyg
  • Berynnau Cooper Split
  • Berynnau addaswyr Dodge Grip Tite
  • Deunyddiau amsugnol
  • Beltiau – Vee a Chludo
  • Rhôlferynnau sfferaidd
  • Cadwyni – Rhôlferyn a Chludo
  • Iriadau
  • Gludiau
  • Rhwymwyr
  • Pibell PVC
  • Darnau a Pheipiau hydrolig
  • Pwmpiau