|
|
Iwtiliti
Mae’r sector iwtiliti o dan bwysau cyson, boed yn bwysau gan y diwydiant neu'r cyhoedd. Mae llawer yn dibynnu ar gyflenwad di-dor o ddwr, trydan a nwy. Mae’r diwydiannau yma hefyd yn gweithredu o fewn cyfundrefn gyfreithiol gaeth.
Gall DRB gynorthwyo ein cwsmeriaid drwy gynnig ein gwasanaethau a’n hadnoddau – 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gan fod DRB wedi cyd-weithio â chwmnïau iwtiliti ers dros 30 mlynedd, mae gennym yr arbenigedd angenrheidiol i gynnig y gwasanaeth gorau. Mae'n technegwyr wedi'u hyfforddi i safonau cydnabyddiedig, gan olygu y gall DRB gynnig gwasanaeth cynhwysfawr. Gall ein staff ymweld â’ch safle er mwyn trwsio a chynnal offer niwmatig a hydrolig cymhleth.
Yn sgîl ein cysylltiadau clos â rhai o enwau amlycaf y diwydiant, gallwn gyflewni pob math o gyfrannau arbenigol. Os oes problem â’ch offer, gall DRB ddod o hyd i'r un rhannau'n union i gymeryd eu lle. Mae'n staff dylunio a gwaith-gynhyrchu ar gael i drafod eich anghenion chi 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. |
Nwyddau a Gwasanaethau
- Gwasanaeth cyflawn sy'n cynnwys cynllunio, a chynhyrchu'r holl offer.
- Gwasanaeth archwilio, a sicrhau ansawdd
- Staff sy'n meddu ar Safety Passport y Grwp Diogelwch Prydeinig
- Atgyweirio a phrofi pob math o falfiau / cychwynwyr / mesuryddion
- Cymhorth gyda threfnu gwaith cynnal a chadw er mwyn rhagweld problemau.
- Ar gael 24 awr, pob diwrnod, gan sicrhau tarfu cyn lleied â phosib ar gynhyrchiadau
- Cypliadau
- Unedau gêr modur
- Offer atal gorlwytho (trydanol)
- Peipiau aer
- Offer hydrolig
- Cadwyni gwely carthion
- Boltiau a nytiau arbennig
- Berynnau
- Rheoli / Cyfyngiant gorlif
|
|